Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13190


117

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 6 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gofynnwyd y ddau gwestiwn.

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil trigolion Cymru?

Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC?

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 16.11

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am - Y cytundeb cydweithio rhwng ColegauCymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a lofnodwyd yng Ngholeg Sir Benfro.

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Ugain mlynedd o fodolaeth y gwasanaeth O Ddrws i Ddrws ym Mhen Llŷn, menter gymunedol sy’n darparu trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Wythnos Atal Canser Ceg y Groth (23-29 Ionawr).

</AI6>

<AI7>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 16.15

NNDM8192 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8155 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

16

1

51

Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NDM8189 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

8       Dadl Plaid Cymru - Lleihau'r pwysau ar y GIG

Dechreuodd yr eitem am 17.39        

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.

2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i:

a) datrys anghydfodau cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y GIG yng Nghymru;

b) strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth;

c) rhoi mesurau iechyd ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth;

d) gwella gwytnwch ar y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac

e) gwella gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG, gan gynnwys drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:

a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;

b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;

c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;

d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;

e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;

f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;

g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;

h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;

i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

25

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 2 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.

2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

3. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:

a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;

b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;

c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;

d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;

e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;

f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;

g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;

h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;

i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

25

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.56

</AI11>

<AI12>

</AI12>

<AI13>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 19.02

NDM8168 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cefnogi pobl mewn argyfwng costau byw

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.22

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>